Croeso i
Ganolfan Seren
Mae Canolfan Seren yn ganolfan therapi cyflenwol sydd wedi'i lleoli ychydig y tu allan i bentref gwledig hardd Bethania yng Ngorllewin Cymru. Mae Bethania tua 15 munud o Aberaeron, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan a thaith o 30 munud yn y car o dref Aberystwyth. Mae Canolfan Seren wedi’i lleoli ychydig uwchlaw'r pentref lle ceir golygfeydd hardd dros arfordir Ceredigion, draw tuag at Fae Aberteifi, sy'n ei wneud yn lleoliad delfrydol i ymlacio.
Sefydlwyd Canolfan Seren i ddarparu adnodd amgen mewn lle diogel, cyfeillgar ac ymlaciol, lle gall oedolion a phlant wella eu lles. Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Chanolfan Seren yn gwybod pa mor angerddol yw Nia am effeithiau cadarnhaol therapïau cyflenwol.
Neilltuwch yr amser i ddarllen mwy am Nia ar y dudalen Amdanom ni page.
Pam dewis Canolfan Seren?
Rydym yn cynnig therapïau cyflenwol i oedolion a phlant a'n ffocws yw creu gwahaniaeth cadarnhaol i'n cleientiaid. Mae’r therapï sydd ar gael yn cynnwys Reiki / Iachau Sythweledol a Chyfarwyddyd Bywyd .
Mae Canolfan Seren wedi gofalu bod mynediad i bobl anabl. Mae ramp mynediad hwylus, digon o le i barcio ar le gwastad ac ystafell wlyb. Rydym hefyd yn falch o ddweud ein bod yn cefnogi busnesau lleol a'r gymuned lle bynnag y bo modd.

Cymraeg
English