Amdanaf i

Fy enw yw Nia ac rwy’n byw yn Rhos y Garth, Bethania gyda fy ngŵr, fy merch a'n ci Hari. Rydw i wir yn mwynhau byw yng nghefn gwlad hardd Gorllewin Cymru, mae mor hyfryd a heddychlon.

Rwy'n angerddol ac yn hoff iawn o therapïau cyflenwol ac yn aml yn trin fy hun i driniaeth gan mai fy nghred i yw er mwyn gofalu am eraill, rhaid i chi ofalu amdanoch eich hun yn gyntaf. Ar ôl profi Reiki / iachau fy hun a gweld y gwahaniaeth cadarnhaol mae'n ei wneud, penderfynais hyfforddi i fod yn therapydd cyflenwol cymwys i helpu eraill i deimlo'n well amdanynt eu hunain.

Rwy'n therapydd cyflenwol profiadol a hyfforddedig lle rwy'n gwrando ar fy nghleientiaid a'u hanghenion.

Dwi'n hynod angerddol yn helpu eraill ac wedi bod ers yn ifanc. Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y gall fy iacháu, arwain a therapïau cyflenwol ei wneud i oedolion a phlant ar ôl cael eu triniaethau.

Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am unrhyw un o'r triniaethau, byddwn yn hapus i helpu.

Rwy'n dymuno'r gorau i chi i gyd gyda llawer o gariad, iechyd da a hapusrwydd.

Nias signature

Canolfan Seren

Rhos Y Garth, Llanon, SY23 5NN

FHT